Mae rhan hon y wefan wedi’i chynllunio i’w defnyddio gan gyflenwyr cyfredol a darpar gyflenwyr HEPCW. Bydd yr adran hon yn cael ei datblygu er mwyn cynnwys manylion am:
- ymarferion tendro sydd ar waith
- rhestr o gytundebau tendr cyfredol
- cyfarwyddiadau i gyflenwyr ynghylch ymgysylltu â HEPCW.
Caiff tendrau sy’n uwch na throthwy Nwyddau a Gwasanaethau’r UE eu hysbysebu drwy GwerthwchiGymru. Caiff cyflenwyr eu hannog i gofrestru ar y safle hwn oherwydd bydd yn sicrhau eu bod yn cael eu hysbysu am gyfleoedd tendro priodol gan gyrff sector cyhoeddus drwy’r DU.
Mae rhestr fer o gwestiynau cyffredin wedi’i datblygu ac anogir chi i’w darllen yn y lle cyntaf – Canllaw i Gyflenwyr.
Fe’ch anogir i gofrestru gyda GwerthwchiGymru (www.sell2wales.gov.uk) oherwydd bydd hyn yn sicrhau eich bod yn derbyn hysbysiadau am gyfleoedd gan gyrff sector cyhoeddus yng Nghymru. Gellir gweld yr hysbysiadau cyfredol ar y safle yma.