TG

it officeMae Grŵp Nwyddau Technoleg Gwybodaeth HEPCW yn hyrwyddo buddiannau aelod-sefydliadau ym maes caffael caledwedd, meddalwedd, systemau a gwasanaethau sy’n gysylltiedig â TG, yn enwedig lle mae modd cael budd o gydweithredu ynglŷn â gofynion cyffredin, a rhannu gwybodaeth ac arfer gorau.

Yn nodweddiadol, mae’r Grŵp yn cynnwys cymysgedd o Swyddogion TG a Swyddogion Caffael sy’n cynrychioli eu Prifysgol neu Goleg, ac sy’n cynnig arbenigedd a gwybodaeth er mwyn cynorthwyo naill ai i sefydlu cytundebau a chontractau cyflenwi a gwasanaeth, neu i feincnodi a chloriannu mynediad i gytundebau fframwaith allanol hygyrch (e.e: drwy OGC, Gwerth Cymru etc).

Mae’r Grŵp yn cynnal cynrychiolaeth allanol ar weithgorau priodol sy’n rheoli Cytundebau Cenedlaethol (yn y sector Addysg Uwch yn y DU) ynglŷn â Chyfrifiaduron Personol Bwrdd Gwaith, Nodiaduron, Argraffyddion, Gweinyddwyr, Cynnal a Chadw Cyfrifiaduron etc., ac mae’n ymwneud â mentrau cydweithrediadol rhanbarthol yng Nghymru fel y bo’n briodol.