Labordy

Test Tubes of Colored LiquidMae maes cyflenwadau Labordai’n parhau’n un cymhleth i’w ddadansoddi a dylanwadu arno, gan gynnwys nwyddau, nwyddau traul a gwasanaethau (cynnal a chadw’n bennaf).

Mae Grŵp Cyflenwadau Labordai HEPCW’n defnyddio arbenigedd unigolion sydd ag ymwybyddiaeth a phrofiad technegol a/neu fasnachol.
Amcanion cyffredinol Grŵp Labordai HEPCW yw adnabod meysydd allweddol gwariant ac yna gwella effeithlonrwydd caffael yn y meysydd hynny.

Mae’r rhan fwyaf o weithgareddau’r grŵp yn gysylltiedig â’r Gweithgor Cenedlaethol ar gyfer Cyflenwadau Labordai, lle’r ydym yn cael ein cynrychioli gan Ysgrifennydd y Grŵp a’r Cadeirydd. Mae gennym gysylltiadau hefyd â Gweithgor Cenedlaethol y Prifysgolion ar gyfer Cydrannau Electronig, lle mae gennym gynrychiolydd materion technegol a phwrcasu.

Mae gwariant ar nwyddau’n cael ei ganfod gan y grŵp Labordai, ac mae strategaeth gaffael yn cael ei sefydlu er mwyn diwallu anghenion defnyddwyr yn y Consortiwm.