Gwasanaethau Proffesiynol

MH900431735Mae Gwasanaethau Proffesiynol yn faes gwariant allweddol ymhlith aelodau’r consortiwm, gan gyfrif am tua 15% o gyfanswm gwariant nad yw’n gyflogau. Oherwydd natur amrywiol y categori hwn a threfniadau sefydliadol ar gyfer pwrcasu gwasanaethau proffesiynol, caiff y categori ei reoli drwy gyfathrebu effeithiol ac ymgynghori â swyddogion cyfrifol ar gyfer pob is-gategori gwariant.