Cynhyrchion Swyddfa

Pen on Notepaper in Ring BinderMae Grŵp Cynhyrchion Swyddfa HEPCW’n cwmpasu cyflenwi deunydd ysgrifennu ar gyfer swyddfeydd, papur copïwyr, nwyddau traul ar gyfer cyfrifiaduron, argraffu a reprograffeg, a gwasanaethau post. Nod y grŵp yw darparu gwerth gorau ar gyfer holl aelodau HEPCW wrth iddynt gaffael cyflenwadau swyddfa; ar hyn o bryd, cyfanswm y gwariant ar y rhain ar draws yr holl aelod-sefydliadau yw £10M.

Y dasg a osodir i’r grŵp yw dadansoddi’r farchnad yn gyson mewn perthynas â’r holl nwyddau sy’n rhan o gyfrifoldeb y grŵp hwn, a datblygu cynghreiriau strategol gyda chonsortia pwrcasu eraill er budd aelod-sefydliadau.

Fel Cadeirydd y grŵp hwn, rwy’n mynychu cyfarfodydd y Gweithgor Cenedlaethol ar gyfer Cyflenwadau Nwyddau Traul Cyfrifiadurol a Deunydd Ysgrifennu (NWPCSS), sy’n cynnwys aelodau’r holl gonsortia pwrcasu ar gyfer Addysg Uwch ledled y DU.