Cyfathrebu

MP900387840Mae maes cyfathrebu’n cyffwrdd craidd pob sefydliad, ac mae cryn le i aelodau weithio gyda’i gilydd a chydgrynhoi eu gofynion er mwyn lleihau gwariant a gwella effeithlonrwydd. Bydd yr heriau hyn yn gofyn hyblygrwydd, arloesi ac ymroddiad gan aelodau yn y blynyddoedd i ddod os ydym am sicrhau’r budd mwyaf.

Mae’r Grŵp Cyfathrebu wedi parhau i gefnogi gwaith y Grŵp Telathrebu Cenedlaethol (NTG), ac mae dau o gynrychiolwyr HEPCW’n cyflawni rolau blaenllaw yn y gwaith o fonitro cytundebau cyfredol a hwyluso datblygiad pellach.

Mae aelodau HEPCW’n parhau i gymryd rhan mewn un neu ragor o’r cytundebau canlynol:

  • Prisiau Galwadau Ffôn
  • Lleihau Costau Galwadau o Ffonau Sefydlog i Ffonau Symudol (Pyrth Cyfryngau)
  • Ffonau Symudol
  • Cynllun ‘Premier Value’ BT
  • Gostyngiadau cytunedig ar renti llinellau Analog a Digidol BT

Mae mwy o wybodaeth i’w chael ar y dudalen Cytundebau.

Yn ychwanegol at hynny, mae cynrychiolwyr HEPCW’n cysylltu’n rheolaidd â chynrychiolwyr Gwerth Cymru er mwyn rhannu arfer da a gwybodaeth am y farchnad.