Clyweleyd

Businesspeople in MeetingMae gan y Grŵp Clyweled naw o aelodau — dau o faes caffael a’r gweddill yn arbenigwyr yng nghanolfannau Clyweled/Cyfryngau eu sefydliad. Mae’r aelodau hynny sydd heb gynrychiolaeth yn cael y newyddion diweddaraf drwy’r safle hwn, drwy GeM, drwy gofnodion cyfarfodydd, a thrwy negeseuon e-bost.

Ar hyn o bryd mae’r grŵp yn rheoli cytundeb rhyngranbarthol ar gyfer Cyflenwi a Gosod (g.g. dylunio) Offer Clyweled, a ddechreuodd ar 2 Tachwedd 2010, ac mae ganddo gytundeb tair blynedd gydag opsiwn i’w ymestyn am ddeuddeng mis pellach. Mae hefyd yn cymryd rhan mewn cytundebau rhyngranbarthol a chenedlaethol eraill; mae manylion i’w gweld ar GeM.

Mae gan y grŵp ymrwymiad i ddarparu llwyfan da lle gall gweithwyr proffesiynol ym meysydd Clyweled a Chaffael gyfnewid gwybodaeth, adolygu strategaethau, edrych ar fentrau caffael perthynol, ac ychwanegu gwerth ar gyfer yr aelodau.