Arlwyo

MP900422671Mae’r Grŵp Arlwyo’n un o Grwpiau Nwyddau mwyaf gweithgar HEPCW; mae ganddo amrywiaeth helaeth o gontractau sy’n ymwneud â nwyddau bwyd a nwyddau o fathau eraill.

Mae’r grŵp yn cynnwys Penaethiaid Arlwyo holl aelod-sefydliadau HEPCW, ynghyd â thri ymgynghorydd caffael, ac mae’n cyfarfod bob 6 i 8 wythnos. Mae’r grŵp yn gweithio’n agos gyda’i wneuthurwyr a chyflenwyr enwebedig mewn rheolaeth ragweithiol dros gontractau, ac yn y gwaith o gloriannu a datblygu cynhyrchion.

Mae portffolio cyfredol contractau arlwyo HEPCW’n cynnwys: ffrwythau a llysiau ffres; cig a da pluog ffres; bwydydd rhewedig ac amgylchol; brechdanau a llenwadau brechdanau; melysion; cynhyrchion blasusfwyd; cynnyrch sydd â brandiau Cymreig; cynhyrchion tafladwy; offer a chyflenwadau ar gyfer gwerthu dros y cownter; glanedyddion a chontractau cynnal a chadw offer. Mae gan y grŵp, yn ogystal, nifer o drefniadau cyflenwr enwebedig ar gyfer bwydydd a gwasanaethau arbenigol.

Yn ei holl weithgarwch contractio, mae’r grŵp yn ymdrechu i gefnogi cadwynau cyflenwi moesegol a chynaliadwy, masnach deg, a chynnyrch lleol.

Mae’r grŵp yn cydweithio’n agos hefyd â TUCO (cymdeithas Swyddogion Arlwyo’r Prifysgolion) — gan gymryd rhan weithredol yng ngweithgareddau galwedigaethol TUCO a defnyddio nifer o’i chontractau — a gyda Gwerth Cymru, lle’r ydym yn gweithio tuag at gontractio cydweithrediadol a rheolaeth cadwyn gyflenwi sy’n well ac yn fwy cynhyrchiol.