Croeso

image-185182-webConsortiwm pwrcasu sy’n cael ei gefnogi a’i gyllido gan Sefydliadau Addysg Uwch (SAU) Cymru yw Consortiwm Pwrcasu Addysg Uwch Cymru (HEPCW).

Ei genhadaeth yw:

“Cynorthwyo Sefydliadau Addysg Uwch yng Nghymru i gyflawni gwerth am arian ar gyfer eu rhanddeiliaid drwy fabwysiadu agwedd strategol at bwrcasu cydweithredol”

Caiff ei gyllido gan ei aelodau, ar gyfer ei aelodau, ac mae’n cofleidio methodoleg gwaith gynhwysol, gan ymdrechu i weithredu polisïau sy’n cefnogi cyflawni amcanion strategol ei aelodau mewn amgylchedd sy’n gynyddol gystadleuol a heriol.

Ar hyn o bryd gall aelodau fanteisio ar dros 100 o gytundebau cydweithredol ar draws amrywiaeth o nwyddau gan gynnwys, ond heb fod yn gyfyngedig i: caledwedd a meddalwedd TG, adeiladau ac ystadau, llyfrau a chyhoeddiadau, cyfarpar labordy, cynhyrchion swyddfa, dodrefn swyddfa a phreswyl, gwasanaethau proffesiynol a theithio busnes.

Caiff tua 30% o wariant sefydliadau y gellir dylanwadu arno ei wneud drwy drefniadau pwrcasu cydweithredol bob blwyddyn, gan gyflawni dros £5M o arbedion i’r aelodau.

Yn ogystal â hyn mae’r consortiwm yn hyrwyddo ymarfer gorau o ran pwrcasu ynghyd â chyfleoedd hyfforddiant a datblygu sydd ar gael drwy’r rhwydwaith AU a rhwydwaith ehangach y sector cyhoeddus.